Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 21 Ionawr 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:02 - 10:23 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Bethan Jenkins Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Steve George (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
View the meeting transcript.
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Cadeirydd bawb i gyfarfod y Pwyllgor. Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2 Deisebau newydd
2.1P-04-524 Rheolaeth Gynllunio a'r Gymraeg
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:
· y Gweinidog Tai ac Adfywio;
· Comisiynydd y Gymraeg, i ofyn am ei barn am y ddeiseb; a
· Chadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i dynnu sylw at y ddeiseb cyn cyflwyno Bil Cynllunio (Cymru) yn fuan.
2.2P-04-525 Ariannu Gwobrau CREST yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:
· ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ofyn am ei barn am y ddeiseb; ac
· anfon copi at y Gweinidog Addysg.
2.3P-04-526 Gwnewch Senedd TV yn hygyrch i bobl fyddar
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:
· ysgrifennu at y Llywydd, fel Cadeirydd Comisiwn y Cynulliad, i ofyn am ei barn am y ddeiseb; a
· gwirio cofnod y trafodion ar gyfer Cyfarfod Llawn diweddar er mwyn cyfeirio at drafodaeth a gynhaliwyd gan yr Aelodau ar faterion tebyg sy'n ymwneud â'r ddeiseb.
2.4P-04-527 Ymgyrch i gael Cronfa Cyffuriau Canser Arbennig yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:
· y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol;
· Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
· Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain (ABPI)
i ofyn am eu barn am y ddeiseb.
2.5P-04-528 Addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob ysgol gynradd yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:
· Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
· Y Prif Weinidog; ac
· Undebau Athrawon yng Nghymru.
i ofyn am eu barn am y ddeiseb.
2.6P-04-529 Ombwdsmon Asiantaethau Gosod Tai ar gyfer Cymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Tai ac Adfywio i ofyn am ei farn ar y ddeiseb.
2.7P-04-530 Labelu Dwyieithog
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:
· Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd; a'r
· Prif Weinidog
i ofyn am eu barn am y ddeiseb.
2.8P-04-531 Ailenwi Maes Awyr Caerdydd ar ôl Eicon o Gymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ofyn am ei barn ar y ddeiseb.
3 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
3.1P-04-373 Parthau Gwaharddedig o Amgylch Ysgolion ar gyfer Faniau Symudol sy'n Gwerthu Bwyd Poeth
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:
· aros am y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau, a addawyd gan y Gweinidog erbyn diwedd mis Ionawr 2014;
· ofyn am farn y deisebydd ar ohebiaeth y Gweinidog; a
· rhoi gwybod i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am y ddeiseb.
3.2P-04-506 Pasys bws am ddim / teithio rhatach i’r rhai sy’n hawlio budd-daliadau, myfyrwyr a phobl o dan 18 oed
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Gweinidog am unrhyw ymateb pellach i sylwadau'r deisebydd, yn benodol, o ran y grŵp oedran targed ar gyfer pasys, o gofio newidiadau i'r oedran cymhwysedd pensiwn.
3.3P-04-447 Ymgyrch am Gerflun o Harri’r Seithfed ym Mhenfro
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:
· dynnu sylw Aelodau Rhanbarthol ac Etholaethol y Cynulliad yn ardal Penfro at y ddeiseb; a
· gofyn am bapur ymchwil ar ba sefydliadau a fyddai'r rhai gorau i gyfeirio'r ddeiseb atynt mewn perthynas â'r materion ariannu.
3.4P-04-456 Dementia - Gallai hyn ddigwydd i chi
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:
· ofyn i'r Gweinidog am y wybodaeth ddiweddaraf o ran cynnydd yr adolygiad o Fframwaith Gofal Iechyd Parhaus y GIG; a
· phan geir yr ymateb hwnnw, ystyried tynnu sylw'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y ddeiseb.
3.5P-04-494 Rhaid sicrhau bod prostadectomi laparosgopig gyda chymorth robotig ar gael i ddynion yng Nghymru yn awr
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:
· ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am farn ynghylch a yw'r arian a ddarperir drwy'r Gronfa Technolegau Iechyd yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn sicrhau y bydd triniaeth gyfartal ar gael i bobl ar draws Cymru;
· ofyn am farn y deisebydd ar ohebiaeth y Gweinidog; a
· gofyn am ymateb gan y byrddau iechyd nad ydynt wedi ymateb i lythyr gwreiddiol y Pwyllgor eto.
3.6P-04-520 Parthed Canslo pob Llawdriniaeth Orthopedig Ddewisol gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda dros y Gaeaf 2013/14
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i aros i glywed beth yw barn y deisebydd ynghylch a yw hi'n fodlon â'r esboniadau a'r camau a ddarparwyd gan y Gweinidog ac, yn benodol, gan y Bwrdd Iechyd.
3.7P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:
· ofyn i'r deisebydd nodi maes penodol yr hoffai i'r Pwyllgor gyflawni gwaith arno; ac
· anfon copi, er gwybodaeth at Gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion Pobl Fyddar.
3.8P-04-516 I wneud gwyddor gwleidyddiaeth yn rhan orfodol o addysg
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:
· anfon sylwadau'r deisebydd ymlaen at y Gweinidog, a gofyn a oes ganddo ragor o sylwadau ar y pwyntiau a wnaed; a
· thynnu sylw Tîm Addysg y Cynulliad at y ddeiseb.
3.9P-04-517 Atal Llywodraeth Cymru rhag cyflwyno system i fonitro plant sy’n dewis cael eu haddysgu gartref o dan wedd diogelu
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros i glywed barn y deisebydd am ymateb y Gweinidog.
3.10 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:
· ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau, i rannu gohebiaeth y deisebydd ac i ofyn a yw ei farn ef wedi newid yng ngoleuni’r ohebiaeth hon; a
· gofyn am friff cyfreithiol i roi eglurhad ynghylch o fewn cylch gwaith pwy y daw'r mater hwn.
3.11 P-04-500 Galw am Reoleiddio Sefydliadau Lles Anifeiliaid yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i aros am sylwadau'r deisebydd ar ymateb y Gweinidog, yn benodol, ei gais am unrhyw dystiolaeth neu ystadegau.
3.12 P-04-511 Cefnogi’r safonau cyfranogaeth plant a phobl Ifanc
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:
· y Gweinidog i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf, ac am ei farn am sylwadau pellach y deisebydd; ac
· Achub y Plant i ofyn am eu barn ar y ddeiseb.
3.13 P-04-482 Hysbysfyrddau cyhoeddus ar draws Cymru i roi gwybod i’r cyhoedd pwy yw eu cynrychiolwyr gwleidyddol (Saesneg yn unig)
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb.
3.14 P-04-519 Diddymu Taliadau Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Gweinidog am ei farn ar sylwadau pellach y deisebydd, yn benodol, y pwynt fod y trefniadau presennol yn rhoi cymhelliad gwrthnysig i berchnogion orfodi pobl sy'n defnyddio'r cartrefi i werthu.
4 P-03-262 Academi Heddwch Cymru
Nododd yr Aelodau ymateb y Prif Weinidog i adroddiad y Pwyllgor ar Academi Heddwch Cymru.
Cynhelir dadl ar yr adroddiad yn y Cyfarfod Llawn ar 5 Chwefror 2014.